Baby Bears

Ar gyfer plant o dan ddwy oed, cymhareb staff 1: 3

Cymhareb staff o fewn yr ystafell hon yw 1: 3, meddiannaeth mwyaf yw 12 o fabanod.

Mae ein uned babanod yn cynnig amgylchedd lliwgar, ysgogol ‘cartrefol’. Mae’r ystafell mawr yma gyda gynllun heulog agored ‘da mannau ar gyfer gweithgareddau archwilio a chwarae anniben. Mae gennym ystafell gysgu gyfforddus wedi ei dodrefnu gyda cotiau. Mae pob tegan yn yr ystafell yn hybu dewis a chwarae rhydd a mi fydd gweithgareddau datblygiadol ychwanegol fel rhan o ddiwrnod eich plentyn.

Mae’r babanod yn yr uned yn cael eu darparu gyda gweithgareddau llawn hwyl. Mae ardaloedd Cosy yn cael eu cadw ar gyfer straeon, caneuon ac amser tawel. Mae carped meddal, drychau a theganau pren yn gwella symbyliad cyffyrddol a gweledol.

Bydd ymdrech parhaus i annog datblygiad corfforol pryd mae’r babanod yn mynd o gropian I gerdded. I gynorthwyo y pontio hwn yn ei ddatblygiad rydym yn cynnig campfa babi ac offer chwarae meddal.

Byddwn yn ymdrechu i ddilyn trefn eich plentyn ei hun fel y darperir gan chi yn ystod y sesiynau ymgartrefu. Byddwn yn eich cynghori mewn unrhyw batrwm o newid sy’n digwydd.
Mae gan yr uned babi ardal gegin ei hun, lle bydd bwydydd llaeth yn cael ei baratoi ac hefyd hardal cewyn hunangynhwysol eu hunain. Byddwn yn darparu’r holl gewynnau a llaeth fformiwla ar gyfer pob baban o fewn yr uned.

Rydym yn deall pwysigrwydd bwydo ar y fron yn ystod y blynyddoedd cynnar. Rydym yn croesawu pob mam sy’n bwydo o’r fron ac mae ‘da ni y cyfleusterau i storio llaeth y fron. Pan fydd eich babi yn barod ar gyfer diddyfnu byddwn yn gweithio’n agos iawn â chi ynglŷn â bwydydd sy’n cael eu cyflwyno. Byddwn yn defnyddio Makaton (iaith arwyddion syml) i ysgogi sgiliau cyfathrebu cynnar ymhellach.