Ar gyfer plant rhwng 2 a 3 oed, cymhareb staff 1: 4
Cymhareb staff o fewn yr ystafell hon yw 1: 3, deiliadaeth uchaf yw 12 o blant.
Mae’r ystafell yn fawr a helaeth, a gynlluniwyd gydag addurn llachar a lliwgar, llawn offer ar gyfer y plant bach sy’n datblygu, i annog meddwl chwilfrydig. Mae Little Bears yn darparu man ar wahân ar gyfer chwarae anniben, ardal fawr ar gyfer chwarae ar y llawr, adeiladu ac ardal chwarae dychmygus. Mae gweithgareddau ychwanegol datblygiadol yn cael eu hymgorffori yn diwrnod eich plentyn. Rydym yn cynnig dewis eang o weithgareddau chwarae rhydd ac mae’r plant medru symud o gwmpas y rhain ar eu cyflymder eu hunain. Mae’r holl gyfarpar a gweithgareddau a gynigir yn hybu datblygiad ym mhob maes dysgu.
Wrth i’r plant bach ddod yn fwy galluog ac annibynnol byddwn yn ymateb gyda ffocws ar weithgareddau hunan-reoli fel rhan o’i chwarae dydd i ddydd, megis gwisgo i fyny, ‘coginio’ yn y gornel gartref a chwarae mewn grŵp – gan bod pob un ohonynt yn hanfodol er mwyn datblygu eu sgiliau tyfu a bywyd. Bydd ‘Chwarae Anniben’, cuddio a chwilio a gemau cofio hefyd gael eu cyflwyno. Wedi ei reoli’n ddiogel, mae’r gweithgareddau hyn yn annog parch, cydweithrediad, dewis personol ac wrth gwrs maen’t yn llawer o hwyl! Mae gennym hefyd ardal dawel am amser stori a chysgu.
Mae gan Little Bears mynediad at yr ystafell ymolchi lle mae cyfleusterau ar gyfer newid cewynnau a hyfforddiant tŷ bach.